Senedd Cymru

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 

Cofnodion - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Dydd Llun 24 Hydref 2022, 10.30am-hanner dydd

Canolfan Llesiant, Wrecsam / Microsoft Teams

 

Yn bresennol:Mark Isherwood AS, Carolyn Thomas AS, Dr Duncan Holtom, Julie Annetts, Dr Alberto Salmoiraghi, Andrea Hughes, Ioan Bellin, Catie Parry, Ceri Low, Christy Hoskings, David Fox, Steffan Davies, Keith Ingram, Jan Thomas, Karen Shepherd, Kathleen Eley; Katie Hiscox, Kirsty Jones, Kyle Jamie Eldridge, Lee Green, Liz Fletcher, Lynette Hibbert; Monique Craine, Nicole Mitchell-Meredith, Liz Ponting, Kirsty Rees, Rosie Edwards, Ruth Rabet, Samantha Lambert-Worgan, Sian Owen, Steffan Phillips, Sioned Thomas, Stephane Guidon, Stephanie Shobiye, Alexander Still, Sue Evans, Suzanne Rinvolucri, Vaugn Price, Gareth Williams, Willow Holloway, Yvonne Odukwe. Catherine Vaughan, Eleri Griffiths, Shelly Godfrey-Coles, Katherine Wyke, Heather Lucas, Chris Haines, Elaine Jennings, David Jennings, Gillian Brokeley, Bethan Kendall, Rachel Hancocks, Justin Hurst a Helen Wilson

 

Ymddiheuriadau: Hefin David AS, Alun Davies AS, Tanya Kleinhans, Dr Elin Walker Jones, Elizabeth Naylor, Simon Humphreys a Dr Sarah Broadhurst

 

1.     Croeso a chyflwyniadau

 

Croesawodd Mark Isherwood AS bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth – y cyntaf i gael ei gynnal yng ngogledd Cymru ers 2019 a’r cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf ers 2020.

 

2.     Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cynigiodd Karen Shepherd bod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o’r trafodaethau ar 13 Mehefin.

 

3.     Ethol swyddogion

 

Ailetholwyd Mark Isherwood AS yn gadeirydd y grŵp ar ôl cael ei gynnig gan Carolyn Thomas AS, ac ailetholwyd Chris Haines yn ysgrifennydd. Ni ddaeth enwebiadau eraill i law.

 

4.     Adroddiad blynyddol

 

Dywedodd Mark Isherwood AS wrth y rhai a oedd yn bresennol y byddai adroddiad blynyddol a datganiad ariannol y grŵp yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

 

 

 

5.     Canfyddiadau’r adolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol

 

Rhoddodd Dr Duncan Holtom, Pennaeth Ymchwil Pobl a Gwaith, drosolwg o ganfyddiadau’r adolygiad o’r galw, capasiti a dyluniad gwasanaethau niwroddatblygiadol (ND). Dywedodd wrth y cyfarfod, er gwaetha’r buddsoddiad mewn gwasanaethau ND i blant a’r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig, sydd wedi gwneud Cymru’n wlad arloesol, fod rhestrau aros hir wedi datblygu. Dywedodd DH mai dim ond un diagnosis a wnaed am bob dau blentyn neu oedolyn a gyfeiriwyd i gael diagnosis. Ychwanegodd fod capasiti’n cael ei gyfyngu gan faint bychan y timau sy’n golygu bod gwasanaethau’n arbennig o agored i broblemau recriwtio a chadw staff. Dywedodd DH fod y gweithgor wedi nodi tri nod allweddol: mynediad cynt at gymorth a chefnogaeth gynnar, mynediad cyflymach at asesiadau arbenigol, a mynediad cyfartal at wasanaethau a chefnogaeth. Dywedodd wrth yr aelodau y dylai hyn gael ei ategu gan ddull gweithredu systemau cyfan ‘dim drws anghywir’, sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn ac sy’n darparu cymorth yn seiliedig ar angen yn hytrach na diagnosis. Pwysleisiodd DH hefyd yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth.

 

Soniodd Karen Shepherd am brofiadau ei theulu, gan godi pryderon ynghylch newid o addysg bellach i gyflogaeth. Roedd Steffan Phillips yn cytuno ac yn dadlau bod cefnogaeth yn tueddu i ostwng ar gyfer oedolion awtistig. Pwysleisiodd bwysigrwydd hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau anabledd dysgu ac iechyd meddwl. Pwysleisiodd y rhai a oedd yn bresennol bwysigrwydd diagnosis o ran dealltwriaeth, llesiant corfforol a meddyliol a mynediad at gymorth. Cytunodd DH fod lle o hyd ar gyfer asesiadau diagnostig, ond dywedodd ei bod yn bwysig edrych ar ba gymorth cynnar y gellir ei ddarparu heb fod angen un.

 

Croesawodd Monique Craine ddull ‘cydgysylltiedig’ yr adolygiad, gan ddweud ei bod yn bwysig cymryd agwedd gyfannol. Er bod Elaine Jennings yn cytuno â llawer o’r argymhellion, ‘shambolig’ oedd ei disgrifiad o brofiad ei theulu o wasanaethau niwroddatblygiadol. Gan godi pryderon ynghylch gwasanaethau yn beio rhieni, dywedodd Helen Wilson wrth y cyfarfod fod ei theulu wedi cael eu cam-drin dro ar ôl tro wrth iddi ddadlau bod y system wedi torri ers degawdau. Pwysleisiodd DH bwysigrwydd ceisio cryfhau’r gwasanaethau presennol yn gyntaf. Rhybuddiodd y gall sefydlu gwasanaethau newydd fod yn anodd ac yn gymhleth yn ymarferol.

 

6.     Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad annibynnol

 

Amlinellodd Julie Annetts, pennaeth y tîm polisi niwroddatblygiadol, ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad. Tynnodd sylw at gyhoeddiad y Dirprwy Weinidog ynghylch buddsoddiad ychwanegol o £12 miliwn hyd at fis Mawrth 2025. Cyfeiriodd JA hefyd at rôl grŵp cynghori’r Gweinidog ar gyflyrau niwroddatblygiadol newydd. Esboniodd y bydd tair ffrwd waith i’r rhaglen wella newydd sy'n ymestyn dros gyfnod o dair blynedd. Y ffrwd gyntaf yw cymryd camau ar unwaith i ddarparu cymorth ychwanegol i leihau’r pwysau ‘fel y mae pethau nawr’ ar wasanaethau asesu a rhoi cymorth y mae mawr ei angen ar rieni a theuluoedd. Bydd yr ail ffrwd yn cydgynhyrchu ac yn profi modelau i ddiwygio gwasanaethau ND yn y tymor hwy. Bydd y drydedd ffrwd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau trawsbynciol, fel strategaeth gweithlu a ffyrdd gwell o gasglu data. Ychwanegodd JA y bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn dod yn Dîm Cenedlaethol Niwroddatblygiadol, gyda Donna Sharland yn arwain y gwaith trawsnewid. Tynnodd sylw at ddigwyddiadau ymgysylltu sy’n cael eu cynnal ledled Cymru a fydd yn helpu i rannu’r rhaglen gwella cyflyrau ND.

 

Pwysleisiodd Mark Isherwood AS bwysigrwydd monitro a gwerthuso yn ogystal â chynnwys y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol yn hyn. Dywedodd wrth y cyfarfod ei bod yn hanfodol symud o ymwybyddiaeth o awtistiaeth tuag at ddealltwriaeth, derbyn ac – yn bwysicaf oll – grymuso.

 

Tynnodd Yvonne Odukwe o Autism’s Hidden Voices, elusen yng Nghasnewydd, sylw at ei gwaith yn cefnogi teuluoedd anos eu cyrraedd yn y gymuned nad ydynt o bosibl eisiau gofyn am help neu fynd ar drywydd asesiad diagnostig. Mynegodd bryderon hefyd am newidiadau, gan ddweud ei bod wedi gorfod gweithredu fel cennad, bron, yn mynd â chofnodion â llaw o’r gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

 

Mynegodd Samantha Lambert-Worgan bryderon am anawsterau ei merch o ran cael gafael ar gymorth drwy CAMHS, a ddywedodd wrthi “nid ydym yn gwybod dim am awtistiaeth”. Cwestiynodd Suzanne Rinvolucri pa mor hygyrch yw gwasanaethau i rieni sy’n aml yn niwrowahanol eu hunain.

 

Cyfeiriodd David Fox at astudiaethau sydd wedi dangos cysylltiad rhwng statws economaidd-gymdeithasol a chyfraddau diagnosis is. Cafodd y pwynt hwn ei herio gan rai eraill a oedd yn bresennol. Soniodd hefyd am bwysigrwydd cefnogi’r rhai nad ydynt yn cyrraedd y trothwy diagnostig. Er ei fod yn cefnogi’r egwyddor o ddull gweithredu sy’n seiliedig ar anghenion, rhybuddiodd y gall rhai oedolion awtistig ei chael yn anodd adnabod eu hanghenion.

 

7.     Unrhyw fater arall/ Cau pen y mwdwl

 

Dywedodd Mark Isherwood AS fod y grŵp yn gobeithio cynnal y cyfarfod nesaf yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Llun 23 Ionawr rhwng 10.30am a hanner dydd, gyda’r aelodau’n gallu ymuno’n rhithiol neu wyneb yn wyneb.

 

Pennwyd y dyddiadau dros dro a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd eraill yn 2023:

 

·         24 Ebrill ym Mhrifysgol Bangor

·         14 Gorffennaf ac 16 Hydref mewn lleoliadau i’w cadarnhau.

 

Wrth gloi, diolchodd y cadeirydd i’r ddau siaradwr, i bawb a oedd yn bresennol ac i’r staff yn yr Hwb Llesiant am gynnal y cyfarfod.